P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Heledd Fychan, ar ôl casglu 274 llofnod ar bapur a 5,743 ar-lein, sef cyfanswm o 6,017 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus o ran y llifogydd i gartrefi a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf yn 2020, a bod camau priodol yn cael eu cymryd i unioni unrhyw broblemau fel gellid osgoi difrod tebyg rhag digwydd eto.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae pobl a busnesau ar draws Rhondda Cynon Taf angen ymchwiliad i'r llifogydd sydd wedi taro cyn gymaint o'n cymunedau eleni, gyda rhai yn cael eu heffeithio deir gwaith ers mis Chwefror. Mae'n bryd i leisiau a phrofiadau pobl a busnesau Pontypridd, Trefforest, Ffynon Taf, Trehafod, Cilfynydd, Rhydyfelin, Nantgarw, y Ddraenen Wen, Hirwaun, Abercwmboi, Aberpennar, Pentre, Treorci, Treherbert, Maerdy, Porth ac eraill gael eu clywed, fel bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Pontypridd

·         Canol De Cymru